International Conference on Mindfulness 2024

Mindfulness in a Changing World

CYNHELIR CYNHADLEDD RYNGWLADOL YMWYBYDDIAETH OFALGAR 2024 (ICM:2024) YM MANGOR, CYMRU AR 2-6 AWST 2024.

Ymunwch â ni mewn sgwrs estynedig am gwestiynau pwysig heddiw. Dewch i ddarganfod sut gall ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi gyfrannu at fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu. Gan fod ein byd a’n cymdeithas yn datblygu mor gyflym, dyma’r amser i ddod at ein gilydd a thrafod sut gall ymwybyddiaeth ofalgar symud y tu hwnt i’w ffiniau presennol, gan ymestyn i feysydd o angen critigol a bod yn rym cadarnhaol dros newid.

Mae’r gynhadledd yn cynnig cyfle unigryw i gyfarfod a thrafod ag arweinwyr ym maes ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi. Yn ogystal, bydd yn cynnwys lleisiau nad ydynt wedi cael clust yn hanesyddol. Bydd y cynulliad hwn yn gyfle i gysylltu, ymholi a thrafod, gyda'r nod o lywio'r ddeialog ar gyfer y degawdau nesaf. Ein nod yw cynnal y gynhadledd mewn ffordd sy’n creu awyrgylch cynhwysol a chroesawgar i bawb.

Bydd thema’r gynhadledd yn canolbwyntio ar bum llinyn allweddol, yn rhychwantu’r ymchwil diweddaraf, dulliau myfyriol a chysyniadau arloesol. Bydd hyn yn cynnwys mynd i’r afael â’r amcanion cymdeithasol a byd-eang niferus ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi, pob un wedi ei anelu at wella ein hiechyd a’n lles, lliniaru gwrthdaro a straen, ac yn y pen draw, dod â budd i’r blaned.

Online access and remote options will be announced in Spring 2024.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu pan fydd ar gael. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu pan fydd ar gael. Cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf. to receive the latest updates. 

CWRDD Â'R BOBL SY'N GYSYLLTIEDIG AG ICM:2024 A GWELD BETH SYDD WEDI EI GYNLLUNIO AR GYFER Y GYNHADLEDD:

CYLCHLYTHYR

Cofrestrwch gyda'ch cyfeiriad e-bost i dderbyn newyddion a diweddariadau

Days
Hours
Minutes
cyCymraeg